Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 8 Ionawr 2024

Amser: 13.30 - 15.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13670


O bell

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

Alun Davies AS

Samuel Kurtz AS

Adam Price AS

James Evans AS

Luke Fletcher AS

Carolyn Thomas AS

Tystion:

 

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(6)423 - Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2023

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI3>

<AI4>

3       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

</AI4>

<AI5>

3.1   SL(6)419 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

3.2   SL(6)436 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4)

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

3.3   SL(6)420 - Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2023

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI7>

<AI8>

3.4   SL(6)426 – Rheoliadau Adeiladu (Y Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu) (Cofrestru, Sancsiynau ac Apelau) (Cymru) 2023

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI8>

<AI9>

3.5   SL(6)427 – Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

3.6   SL(6)425 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI10>

<AI11>

4       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI11>

<AI12>

4.1   SL(6)424 – Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu - Cod Ymarfer Cymru

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI12>

<AI13>

5       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

</AI13>

<AI14>

5.1   SL(6)422 - Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI14>

<AI15>

6       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI15>

<AI16>

6.1   Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.

</AI16>

<AI17>

6.2   Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI17>

<AI18>

6.3   Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Grŵp Rhyngweinidogol ar Waith a Phensiynau

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

</AI18>

<AI19>

6.4   Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

</AI19>

<AI20>

7       Papurau i'w nodi

</AI20>

<AI21>

7.1   Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y

Gweinidog Newid Hinsawdd.

</AI21>

<AI22>

7.2   Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Seilwaith (Cymru)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan

y Gweinidog Newid Hinsawdd.

</AI22>

<AI23>

7.3   Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith: Y Bil Seilwaith (Cymru)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan

y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

</AI23>

<AI24>

7.4   Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cynllun Masnachu Allyriadau y DU

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan

y Gweinidog Newid Hinsawdd.

</AI24>

<AI25>

7.5   Gohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

</AI25>

<AI26>

7.6   Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth.

</AI26>

<AI27>

7.7   Gohebiaeth rhwng y Fforwm Rhyngseneddol a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Fforwm Rhyngseneddol a'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol

</AI27>

<AI28>

7.8   Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip i’r Llywydd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Nododd y Pwyllgor yrohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Llywydd.

</AI28>

<AI29>

7.9   Gohebiaeth gan y Prif Weinidog i Lywodraeth y DU: Ffyniant Bro

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog i Lywodraeth y DU.

</AI29>

<AI30>

7.10 Gohebiaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig: Defnyddio pwerau o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

Nododd y Pwyllgor ei ohebiaeth â Llywodraeth y DU a’i hymateb. 

</AI30>

<AI31>

7.11 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

</AI31>

<AI32>

8       Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22 ar gyfer eitem agenda 11

Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Gwnaeth y Pwyllgor ethol Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer eitem 11 o’r cyfarfod.

</AI32>

<AI33>

9       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI33>

<AI34>

10    Cytundebau rhyngwladol

Trafododd y Pwyllgor a chytunodd ar ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd yn ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr 2023.

 

Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried y cytundeb ar gyfer darparu partneriaeth lloches i gryfhau ymrwymiadau rhyngwladol a rennir ar amddiffyn ffoaduriaid a mudwyr rhwng y DU a Rwanda.  Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a thynnu'r cytundeb i sylw'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a Phwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi. Cytunodd hefyd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundeb yn ei gyfarfod nesaf.

</AI34>

<AI35>

11    Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Adroddiad drafft

Yn unol â'r cynnig a dderbyniwyd gan y Pwyllgor, roedd Alun Davies yn bresennol i weithredu fel Cadeirydd dros dro ar gyfer eitem 11 o’r agenda.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Huw Irranca-Davies AS, Adam Price AS a Samuel Kurtz AS. Croesawodd y Pwyllgor Carolyn Thomas AS, Luke Fletcher AS a James Evans AS fel dirprwyon.

Gwnaeth y Pwyllgor drafod a chytuno ar ei adroddiad drafft ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), yn amodol ar rai mân newidiadau a fyddai'n cael eu cwblhau drwy e-bost.

</AI35>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>